Caffi Cymunedol

Cartref / Cyfleusterau / Caffi Cymunedol

Ymlacio yng Nghaffi Canolfan y Mynydd Du ym Mrynaman

Mae ein caffi ar agor trwy gydol y flwyddyn, yn gweini bwyd cartref maethlon. Ein nod yw cynnig bwyd o ansawdd mewn lleoliad deniadol, a ‘rydym yn gobeithio y byddwch chi’n dod i ymweld â ni cyn bo hir

Rydym ar agor ar gyfer brecwast, cinio, byrbrydau neu dim ond cwpaned o de a theisennau cartref, a’r cyfan wedi’i gyflwyno mewn awyrgylch gyfeillgar, groesawus.

Mae tîm y caffi yn cynnwys staff a gwirfoddolwyr ymroddgar sydd wastad yn hapus i helpu.

Rydym hefyd yn cynnal bwffe yn fewnol ac ar gyfer tecawê.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Ganolfan ar 01269 823400.

Oriau Agor y Caffi


Dydd Llun i Dydd Gwener
9:00 – 14:30 (Archebion olaf am fwyd poeth 14:00)

Dydd Sadwrn
9:00 – 14:00 (Archebion olaf am fwyd poeth 13:30)

Dydd Sul
10:30 – 14:30
Dydd Sul Rhost – Byddai’n ddoeth cadw lle

Tosti, Brechdanau, Tatws Siaced a The Hufen ar ôl 1pm ar ddydd Sadwrn yn unig

Cinio Rhost Dydd Sul – Ddim ar gael dros dro

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, ni allwn gynnig ein gwasanaeth Cinio Dydd Sul dros dro.

Gobeithiwn ddod â’n rhostiau blasus Dydd Sul yn ôl yn fuan iawn, ond yn y cyfamser bydd ein Caffi yn parhau ar agor ar ddyddiau Sul rhwng 9am a 2pm, gan gynnig dewis cyfyngedig o fwyd.

Diolch am eich dealltwriaeth a’ch cefnogaeth barhaus.

Sunday Roast from Black Mountain Centre
Sunday Roast from Black Mountain Centre
Black Mountain Centre - Community Cafe - Chilli, rice and nachos
Black Mountain Centre - Community Cafe - Quiche, side salad and coleslaw
Black Mountain Centre - Community Cafe - Soup and fresh bread