Llyfrgell Gymunedol
Cartref / Cyfleusterau /
Dal i fyny gyda rhywfaint o ddarllen
Canolfan y Mynydd Du yw cartref Llyfrgell Brynaman. Mynnwch lyfr i chi’ch hun, eisteddwch yn ôl, a mwynhewch ychydig o amser tawel
Ymunwch â’r Llyfrgell
Mae’r llyfrgell gymunedol yn cynnig dewis eang o lyfrau, DVDau a CDau i ddiddori unigolion o bob oedran a gallu. Yn ogystal, mae gan y llyfrgell ystafell gyfrifiaduron y gall cwsmeriaid ddefnyddio yn ystod oriau agor y llyfrgell.
Ymunwch â’r llyfrgell – casglwch eich cerdyn aelodaeth heddiw!
Mae’r llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o ffuglen – mewn print maint arferol a phrint bras – i siwtio pawb, gan gynnwys llyfrau trosedd, arswyd a ffuglen wyddonol. Mae’r adran ffeithiol yn cwmpasu y rhan fwyaf o bynciau, ochr yn ochr ag amrywiaeth o fywgraffiadau.
Mae llyfrgell y plant yn cynnwys llyfrau i blant bach, i blant iau ac i bobl ifanc yn eu harddegau, yn ogystal â stoc da o lyfrau ffeithiol ar gyfer plant iau. Mae llyfrau llafar ar gael hefyd.
Oriau Agor y Llyfrgell
Dydd Mawrth
2:00pm – 6:00pm
Dydd Gwener
9:30am – 4:30pm